Ciw-restr

Dau Dylwyth

Llinellau gan Mrs Lloyd (Cyfanswm: 66)

 
18 Pwy?
19 Y Morgansiaid?
 
21 Beth maen nhw wedi'i wneud?
 
23 Beth?
24 Ble cawsant gyfle?
25 Pwy gafodd afael arno?
 
29 Ond beth wnaeth e iddyn nhw ei saethu?
 
32 Ond tadcu, wyddoch chi ddim yn iawn ai bechgyn Rhydyfran a'i saethodd ai peidio.
 
35 Pa ddrwg oedd Rofer wedi'i wneud?
 
37 O'r annwyl, roeddwn i'n dechrau meddwl bod pawb wedi anghofio'r hen gynnen erbyn hyn.
38 Roedd pethau wedi bod mor dawel y chwe mis diwetha.
 
40 Dydw i ddim wedi anghofio, ac nid yw'n debyg y gwna i.
41 Ond rwy wedi sylweddoli nad yw cadw'r hen gynnen yn fyw yn gwneud lles i neb—dim ond magu gofid i ni fel teulu.
 
45 Meddyliwch am y plant—dyna'r etifeddiaeth y byddwch yn ei throsglwyddo iddynt.
 
47 Ond dydy e'n ddim i'r plant eto—pam na allant dyfu i fyny heb gysgod yr hen gweryl a'r hen elyniaeth drostynt.
 
51 Dydych chi ddim i ddweud wrtho beth sydd wedi digwydd i Rofer.
 
55 Ie, ond peidiwch â dweud wrtho pwy a'i saethodd.
56 Dwedwch mai anlwc oedd, dwedwch rywbeth, rhywbeth ond y gwir.
57 Peidiwch â'i dynnu ef i mewn i'r gynnen ac yntau'n ddim ond deg oed.
58 Dydy hi ddim ond creulondeb i'w dynnu ef ac Olwen i mewn i'r gynnen—rydw i wedi gofalu nad oes neb wedi sôn dim am y peth wrth y ddau—gadewch iddynt fod yn eu diniweidrwydd.
59 Fy mhlant i ydyn nhw ac y mae gen i hawl i'w magu nhw fel yr ydw i am.
 
61 Nac ydw i ddim yn anghofio.
62 Roedd e'n ŵr i mi yn ogystal â bod yn fab i chi—sut galla i anghofio fyth?
63 Ond rydw i am i'r plant dyfu i fyny yn eu hanwybodaeth.
64 Maent mor hapus ac yr ydw i am iddynt gadw'r hapusrwydd yna cyhyd ag sy'n bosibl.
 
70 Dydych chi ddim yn gwybod mai'r Morgansiaid a ddaeth ar ei draws.
71 Ni wyddoch chi ddim beth a ddigwyddodd.
72 A does gennych chi run hawl i ddweud wrth y plant mai'r Morgansiaid oedd yn gyfrifol am farwolaeth eu tad.
 
74 Efallai mai rhedeg i ffwrdd a wnaeth yr ebol.
 
78 Beth gwell fyddwch chi a hwythau a phawb arall o hynny?
79 Ni wnaeth gelyniaeth a digofaint fel hyn les i neb erioed.
80 Ceisiwch sylweddoli beth a fyddwch yn ei wneud.
81 Chwerwi ysbryd a natur y plant—rhoi baich ar eu hysgwyddau—baich i'w gario drwy eu hoes.
82 Dau sydd mor hapus a llon bob amser.
 
86 Tadcu, dewch i ffwrdd, dewch i ffwrdd tra bo'r plant yn ifainc, cyn iddynt sylweddoli'r hyn a ddigwyddodd yn y gorffennol.
 
88 Ie, pam lai?
89 Mae fferm yn rhydd nawr yn ymyl lle Marged fy chwaer yn Lloegr—rhywle ymhell, bell oddi yma—lle na bydd sôn am dylwyth Rhydyfran—lle geill y ddau blentyn dyfu i fyny heb yr hen gynnen yma yn bla ar eu heneidiau.
90 Dechrau bywyd newydd, a hyd yn oed os na allwn ni anghofio yr hyn a fu, ni fydd eisiau i'r plant fyth ddod i wybod.
 
95 Be waeth am hynny?
96 Ni ddaw i wybod am y gynnen.
97 Rydw i am fagu fy mhlant yn rhywle heb gysgod y cwmwl hwnnw yno.
 
99 Ond ni ddaw hynny â'i dad yn ôl.
100 Pa lesâd â fydd y cwbl?
101 Roedd colli ei dad yn fwy o golled i mi nag i neb, ond...
 
104 Tadcu, rwy'n erfyn arnoch chi, gwnewch addo peidio â dweud y gwir wrtho heno.
 
106 Rwy'n gofyn i chi er mwyn y plant ac er eich mwyn chithau.
107 Rydych ar y groesffordd heno.
108 Os gwrthodwch chi ddilyn y llwybr a ofynnais i chi ei ddilyn, fe ddanfonwch y ddau blentyn yna ar lwybr sy'n arwain i atgasedd a dialedd, a chymylu eu holl fywyd.
109 Rydych chi'n hen, ond y mae gan y ddau yna flynyddoedd Ìawer o'u blaen.
110 Eu mam sy'n erfyn arnoch chi—nid er fy mwyn fy hun, ond er eu mwyn hwy.
 
119 Rhaid i ti beidio â holi beth a ddigwyddodd i Rofer, Dafydd.
 
121 Fe gei di gi arall yn ei le.
 
136 Dafydd, os cei di boni i'w marchogaeth, a wyt ti'n fodlon peidio â gofyn rhagor sut y cafodd Rofer ei ddiwedd?
 
144 Dafydd, cerdd allan am funud at Ifan.
 
151 Nac oes ganddo, ddim hawl.
152 Ni ŵyr beth y mae'n ei ofyn.
153 Arnoch chi mae'r cyfrifoldeb i gyd.
154 Peidiwch â cheisio ei daflu ar ei ysgwyddau ef.
 
158 Arnoch chi mae'r cyfrifoldeb, cofiwch.
159 Chi yn unig.
 
174 Dafydd!
175 Dwyt ti ddim i ddweud pethau felna.
 
179 Rhaid i ti addo i mi nawr, Dafydd, na ddwedi di ddim peth fel yna eto.
 
183 Fe gei di gi eto...
 
189 A ydych chi'n sylweddoli nawr beth yr ydych wedi'i wneud?
 
192 Rydych wedi cynnau tân na welwch chi na minnau mo'i ddiffodd.